2011 Rhif 1943 (Cy. 210)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r adroddiad y mae’n ofynnol i’r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion ym mhob blwyddyn ysgol (rheoliad 3 a’r Atodlen) a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhieni disgyblion cofrestredig, sydd yn cael eu hasesu yn unrhyw gyfnod allweddol, ofyn amdani mewn perthynas â lefelau cyraeddiadau’r disgybl mewn pynciau perthnasol (rheoliad 4). Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli, gyda newidiadau, darpariaethau mewn perthynas ag adroddiadau pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion a gafwyd gynt yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) fel y’u diwygiwyd. Cafodd darpariaethau eraill Rheoliadau 2004 eu dirymu a’u disodli gan Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i’r pennaeth drefnu ei bod ar gael yn yr adroddiadau a roddir i ddisgyblion sy’n ymadael yr ysgol. Mae Rheoliad 6 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth.

Pan fo angen hynny, rhaid i unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau, gael ei chyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg neu i iaith arall neu gael ei chynhyrchu mewn Braille neu ar dâp sain (rheoliad 7).


2011 Rhif 1943 (Cy. 210)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

Gwnaed                           29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Awst 2011

Yn dod i rym                              1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

“asesiad athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiad gan athrawon yn unol â’r asesiadau statudol;

ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu hynny a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan y canlynol—

                     (i)    adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 2002([3]) o ran disgyblion sydd yn y cyfnod sylfaen; neu

                   (ii)    adran 108(3)(c) o Ddeddf 2002([4]) o ran disgyblion mewn cyfnod allweddol;

ystyr “canlyniad” (“result”), o ran unrhyw asesiad o dan yr asesiadau statudol, yw canlyniad yr asesiad fel y mae wedi ei benderfynu a’i gofnodi’n unol â’r trefniadau hynny;

ystyr “cofnod presenoldeb” (“attendance record”) yw cofnod o bresenoldeb disgybl mewn ysgol yn ôl y gofrestr bresenoldeb a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf Addysg 1996 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010([5]);

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) yn adran 103(1) o Ddeddf 2002, ac mae cyfeiriad at gyfnod allweddol dau, tri neu bedwar yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn eu trefn yn y paragraffau (b) i (d) hynny;

mae “cyfnod sylfaen” i’w ddehongli’n unol â “foundation phase”  yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997([6]);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002([7]);

ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw dogfennau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ac sy’n nodi lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â’r pynciau perthnasol, ac y mae effaith i’r dogfennau hynny yn rhinwedd y gorchmynion a wnaed o dan adran 108(3)(a) a (b) o Ddeddf 2002 ar gyfer y pynciau hynny ac sydd, am y tro, mewn grym;

ystyr “FfCC” (“NQF”) yw’r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a ffurfir gan gymwysterau o fewn yr ystyr a roddir i “relevant qualifications” gan adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997 ac sy’n cael eu dyfarnu neu eu dilysu gan gorff sy’n cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â’r cymwysterau:

ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a gynhelir ac a gyhoeddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau yn unol ag adran 148 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009([8]);

ystyr “lefel CC” (“NC level”) yw lefel cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol a ddisgrifir yn y dogfennau cysylltiedig;

ystyr “lefel FfCC” (“level NQF”) yw’r lefel y mae’r cymwysterau wedi eu hachredu arni o fewn y FfCC;

mae i “maes dysgu” (“area of learning”) yr un ystyr ac a roddir iddo yn y ddogfen “Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”([9]) sy’n nodi’r deilliannau dymunol a’r rhaglenni addysgol mewn cysylltiad â phob un o’r meysydd dysgu ac y mae effaith iddi yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 108(2) o Ddeddf 2002([10]);

ystyr “Menter Cyfnewid Data Cymru” (“DEWi”) yw cronfa ddata Menter Cyfnewid Data Cymru sy’n cael ei chynnal a’i chyhoeddi gan Weinidogion Cymru([11]);

ystyr “meysydd dysgu eraill” (“other areas of learning”) yw—

                           (i)    datblygiad o ran y Gymraeg;

                         (ii)    gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd;

                       (iii)    datblygiad corfforol; a

                        (iv)    datblygiad creadigol;

ystyr “meysydd dysgu perthnasol” (“relevant areas of learning”) yw—

                           (i)    datblygiad mathemategol;

                         (ii)    datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; a

                       (iii)    sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu;

ystyr pynciau perthnasol” (“relevant subjects”), o ran asesiadau athrawon ac unrhyw gyfnod allweddol, yw’r holl bynciau hynny y mae’n ofynnol asesu’r disgybl neu’r disgyblion dan sylw mewn cysylltiad â hwy drwy asesiadau athrawon yn y cyfnod allweddol hwnnw yn unol â’r asesiadau statudol;

ystyr “swyddog lles addysg” (“education welfare officer”) yw unrhyw berson a gyflogir gan awdurdod lleol, ac y mae ei ddyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn bresennol yn rheolaidd yn yr ysgol;

ystyr “uned neu gredyd” (“unit or credit”), o ran cymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy’n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan fo wedi ei gwblhau neu wedi ei chwblhau yn llwyddiannus, ei gyfrif neu ei chyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at ennill y cymhwyster hwnnw; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (nad yw’n un a sefydlwyd mewn ysbyty) ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol neu uned cyfeirio disgyblion.

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad a thargedau cyrhaeddiad yn gyfeiriadau at y lefelau a thargedau a nodir yn y dogfennau cysylltiedig.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu gorff llywodraethu, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriad at yr athro neu’r athrawes sydd â gofal dros yr uned cyfeirio disgyblion.

Adroddiad pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir, drefnu bod adroddiad ysgrifenedig ar gael, bob blwyddyn ysgol, yn unol â’r rheoliad hwn, sy’n cynnwys yr wybodaeth a ragnodir yn y rheoliad hwn.

(2) Dyma’r personau rhagnodedig y mae’n rhaid trefnu bod yr adroddiad ar gael iddynt—

(a)     pob disgybl sy’n oedolyn; neu

(b)     rhiant pob disgybl sy’n oedolyn (os yw’r pennaeth o’r farn bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn briodol); neu

(c)     rhiant pob disgybl yn achos pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol.

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyflawniadau addysgol y disgybl neu’r disgybl sy’n oedolyn y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i’w riant a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r disgybl hwnnw a nodir—

(a)     ym mharagraff 1 o Ran 1 o’r Atodlen, pan fo’r disgybl hwnnw yn y cyfnod sylfaen;

(b)     ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o’r Atodlen a Rhan 2 o’r Atodlen, pan fo’r disgybl hwnnw yng nghyfnod allweddol dau, tri a phedwar;

(c)     yn Rhan 3 o’r Atodlen pan gofnodwyd enw’r disgybl hwnnw ar gyfer unrhyw gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ar lefel FfCC 3 neu’n uwch na hynny; ac

(ch) yn Rhan 4 o’r Atodlen.

(4) Yn achos y disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol, rhaid cynnwys yn yr adroddiad, yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau statudol ar gyfer y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar Fenter Cyfnewid Data Cymru.

(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau (3) a (4) rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (7), bod yn rhaid i’r pennaeth anfon yr wybodaeth honno bob blwyddyn ysgol drwy’r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.

(6) Rhaid i’r cyfnod, y mae adroddiad sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) yn ymwneud ag ef, ddechrau ym mhob achos gyda’r diweddaraf o’r canlynol——

(a)     y dyddiad y derbyniwyd y disgybl i’r ysgol; neu

(b)     diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar faterion o’r fath a wnaed yn unol â’r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.

(7) Pan na fo unrhyw un o’r manylion sy’n angenrheidiol i ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (8) wedi dod i law’r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid i’r pennaeth drefnu bod y wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo’n ymarferol a sut bynnag heb fod yn hwyrach na’r 30 Medi canlynol.

(8) Dyma’r wybodaeth—

(a)     manylion y cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ac a enillwyd gan ddisgybl; a

(b)     yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 1 a 2(4) o’r Atodlen.

(9) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “disgybl sy’n oedolyn” yw disgybl 18 oed neu drosodd ar yr adeg y trefnir bod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ar gael ac nad yw’n bwriadu ymadael â’r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol.

 

Yr wybodaeth ychwanegol y mae’n rhaid trefnu iddi fod ar gael

4.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos disgybl cofrestredig sydd mewn ysgol a gynhelir ac mewn unrhyw gyfnod allweddol ac sydd wedi ei asesu’n unol â’r asesiadau statudol yn y cyfnod allweddol hwnnw, rhaid i’r pennaeth, os gofynnir iddo wneud hynny gan riant y disgybl yn ysgrifenedig, drefnu bod lefelau cyrhaeddiad ac unrhyw ganlyniadau eraill y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad mewn unrhyw bwnc perthnasol ar gael i’r rhiant yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Rhaid i’r pennaeth gydymffurfio â chais o’r fath cyn pen pymtheng niwrnod ysgol ar ôl i’r pennaeth ei gael.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn y paragraff hwnnw eisoes wedi bod ar gael i riant y disgybl yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Adroddiad disgybl sy’n ymadael yr ysgol

5.(1)(1) Rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir drefnu bod adroddiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2) ar gael, yn unol â pharagraffau (3) a (4), i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac sy’n bwriadu ymadael â’r ysgol neu sydd wedi ymadael â’r ysgol.

(2) Mae’r wybodaeth yn cynnwys y canlynol—

(a)     enw’r disgybl;

(b)     ysgol y disgybl;

(c)      manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd ac unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a ddyfarnwyd i’r disgybl; ac

 (ch) manylion byr am gynnydd y disgybl a’i gyflawniadau mewn pynciau (ac eithrio’r rhai lle’r enillodd unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath) ac mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol, yn ystod y flwyddyn ysgol  yr ymadawodd y disgybl yr ysgol ynddi neu ar ei diwedd.

(3) Rhaid i’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a), (b) ac (ch) o baragraff (2) ar gael ynddi, ddarparu ar gyfer llofnod y disgybl, a rhaid i’r rhan honno a’r rhan o’r adroddiad y mae’r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) ar gael ynddi, ill dau ddarparu ar gyfer llofnod gan athro sy’n gyfarwydd â’r disgybl yn ogystal â chyflawniadau’r disgybl hwnnw.

(4) Rhaid trefnu bod yr  adroddiad ym mharagraff (1) ar gael i’r disgybl heb fod yn hwyrach na’r 30 Medi sy’n dilyn diwedd y flwyddyn ysgol yr ymadawodd y disgybl yr ysgol ynddi neu ar ei diwedd.

Cyfyngiadau ar ddarparu gwybodaeth

6.(1)(1) Mae darpariaethau paragraff (2) yn gymwys i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 6(1) o’r Atodlen.

(2) Nid oes dim sydd yn rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i drefnu bod unrhyw wybodaeth ar gael—

(a)     sy’n deillio oddi wrth, neu sy’n cael ei darparu gan neu ar ran, unrhyw berson ac eithrio unrhyw un o’r canlynol—

                           (i)    un o gyflogeion yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

                         (ii)    yn achos ysgol wirfoddol  a gynorthwyir, athro neu athrawes neu weithiwr cyflogedig arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a gymerwyd ymlaen gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau);

                       (iii)    swyddog lles addysg;

                        (iv)    y person sy’n gofyn am y datgeliad; neu

(b)     i’r graddau y byddai’n datgelu, neu y byddai’n galluogi rhywun i gasglu, pwy yw person (ac eithrio’r disgybl y mae’r wybodaeth honno’n ymwneud ag ef neu berson a grybwyllwyd yn is-baragraff (a)) fel ffynhonnell yr wybodaeth neu fel person y mae’r wybodaeth honno’n berthnasol iddo.

(3) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drefnu bod unrhyw wybodaeth ar gael—

(a)     i’r graddau y byddai ei datgelu yn debygol, ym marn y pennaeth, o achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol y disgybl y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu unrhyw berson arall;

(b)     i’r graddau y byddai, ym marn y pennaeth, yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r disgybl y mae’n ymwneud ag ef yn destun, neu wedi bod yn destun, cam-drin plant neu efallai mewn perygl o gam-drin o’r fath; neu

(c)     yn y fath fodd ag i ddatgelu lefelau cyrhaeddiad ac unrhyw ganlyniadau unrhyw ddisgybl arall a enwyd mewn unrhyw darged cyrhaeddiad neu bwnc.

(4) Yn y rheoliad hwn mae “cam-drin plant” yn cynnwys anafu plentyn yn gorfforol (ac eithrio drwy ddamwain) ac mae’n cynnwys ei esgeuluso’n gorfforol neu’n emosiynol, ei drin yn wael neu ei gam-drin yn rhywiol.

Cyfieithu gwybodaeth a dogfennau

7.(1)(1) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi’i darparu yn Gymraeg,  gael ei chyfieithu i’r Saesneg, rhaid ei chyfieithu felly, a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(2) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn ac sydd wedi’i darparu yn Saesneg, gael ei chyfieithu i’r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu felly, a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth a gyfieithwyd felly fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(3) Os yw’n ymddangos yn angenrheidiol i bennaeth unrhyw ysgol y dylai unrhyw ddogfen neu wybodaeth, y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn, gael ei chyfieithu i iaith ac eithrio Cymraeg neu Saesneg, neu y dylai’r ddogfen neu’r wybodaeth fod ar gael ar ffurf Braille neu dâp sain, rhaid ei chyfieithu felly neu ei chynhyrchu  mewn Braille neu ar dâp sain, yn ôl y digwydd, a bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ddogfen a gyfieithwyd, yr wybodaeth a gyfieithwyd, y fersiwn Braille neu’r fersiwn sain fel y maent yn gymwys i’r ddogfen neu’r wybodaeth wreiddiol.

(4) Rhaid peidio â chodi unrhyw dâl am gopi o unrhyw wybodaeth a gyfieithwyd neu a gynhyrchwyd yn unol â pharagraffau (1), (2) neu (3), ond pan fo ffi yn cael ei chodi am gopi o ddogfen wreiddiol, rhaid peidio â chodi unrhyw ffi uwch am gopi o’r ddogfen a gyfieithwyd neu a gynhyrchwyd felly.

 

 

 

 

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

 

29 Gorffennaf 2011

 

 

                   YR ATODLEN   Rheoliad 3(3)

GWYBODAETH AM DDISGYBLION UNIGOL

RHAN 1

Cyfnod Sylfaen

1.(1)(1) Mewn perthynas â phob maes dysgu perthnasol, disgrifiad byr o ddeilliant cyfnod sylfaen a gyrhaeddodd y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu hynny, ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.

(2) Mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu eraill, datganiad byr o lefel cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau

2.(1)(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn pwnc a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel gyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau mewn Cymraeg iaith gyntaf a Saesneg.

(2) Datganiad byr ynghylch a yw’r disgybl wedi cyflawni’r dangosydd pynciau craidd.

(3) Bydd disgybl yng nghyfnod allweddol dau yn cyflawni’r dangosydd pynciau craidd os yw’n cyflawni lefel  CC 4 neu’n uwch na hynny mewn—

(a)     Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg, yn ôl y cwricwlwm a ddysgwyd i’r disgybl;

(b)     mathemateg; ac

(c)     gwyddoniaeth.

(4) Disgrifiad byr o’r hyn y mae canlyniadau’r disgybl, yr adroddwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (1), yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o’r cyfnod allweddol, a hwnnw’n ddisgrifiad sy’n tynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol sydd gan y disgybl.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol tri

3.(1)(1) Canlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn pwnc a chanlyniadau asesiad athrawon o lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob targed cyrhaeddiad ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri mewn—

(a)     Cymraeg ail iaith a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a Saesneg, yn   unol â’r cwricwlwm a ddysgwyd i’r disgybl;

(b)     mathemateg;

(c)     gwyddoniaeth; ac

(ch) y pynciau perthnasol.

(2) Datganiad byr ynghylch a yw’r disgybl wedi cyflawni’r dangosydd pynciau craidd.

(3) Bydd disgybl yng nghyfnod allweddol tri yn cyflawni’r dangosydd pynciau craidd os yw’n cyflawni lefel CC 5 neu uwchlaw hynny mewn—

(a)     Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg, yn unol â’r cwricwlwm a ddysgwyd i’r disgybl;

(b)     mathemateg; ac

(c)     gwyddoniaeth.

(4) Disgrifiad byr o’r hyn y mae canlyniadau’r disgybl, yr adroddwyd arnynt yn unol ag is-baragraff (1), yn ei ddangos am gynnydd y disgybl yn y pynciau perthnasol yn unigol ac mewn perthynas â phlant eraill yn yr un flwyddyn o’r cyfnod allweddol, a hwnnw’n ddisgrifiad sy’n tynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol sydd gan y disgybl.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar

4.(1)(1) Enw unrhyw bwnc  y cofnodwyd enw disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd a’r radd (os oes un) a gafwyd.

(2) Nifer cyfartalog y pwyntiau a gafodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o’r fath y cofnodwyd ei enw ar eu cyfer.

(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch y pwyntiau a dyrannwyd i bob cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd yn unol â’r gofrestr.

RHAN 2

Disgyblion mewn unrhyw gyfnod allweddol

5.(1)(1) O ran yr holl bynciau sylfaen, manylion byr am gyflawniadau’r disgybl mewn perthynas â phob pwnc gan dynnu sylw at unrhyw gryfderau a gwendidau penodol, ar y cyd, pan fo’r manylion yn cynnwys lefelau, â datganiad sy’n dangos a yw’r lefelau hynny wedi eu penderfynu’n unol â’r asesiadau statudol ai peidio.

(2) Manylion unrhyw bwnc y mae’r disgybl yn esempt rhagddo.

RHAN 3

Disgyblion y cofnodwyd eu henwau ar gyfer cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd

6.(1)(1) Enw unrhyw bwnc y cofnodwyd enw’r disgybl ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster perthnasol a gymeradwywyd a’r radd (os oes un) a gafwyd.

(2) Nifer cyfartalog y pwyntiau a gafodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o’r fath y  cofnodwyd ei enw ar eu cyfer.

(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch y pwyntiau a dyrannwyd i bob cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd yn unol â’r gofrestr.

RHAN 4

Pob disgybl

7.(1)(1) Manylion byr am gyflawniadau’r disgybl mewn unrhyw faes dysgu, unrhyw bwnc neu weithgaredd, gan gynnwys Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a’r rheini’n gyflawniadau nas crybwyllir yn unman arall yn yr Atodlen hon sy’n rhan o’r cwricwlwm ysgol ac am sgiliau a galluoedd y disgybl ac ynghylch cynnydd cyffredinol y disgybl yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.

(2) Manylion y trefniadau y caniateir trafod yr adroddiad odanynt gydag athrawon y disgybl gan riant y disgybl neu, yn achos disgybl sy’n 18 oed neu drosodd, gan y disgybl.

(3) Manylion unrhyw gymhwyster perthnasol a gymeradwywyd neu unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a gafodd y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud â hi ac na chyfeiriwyd ato yn rhywle arall yn yr Atodlen hon.

(4) Crynodeb o gofnod presenoldeb y disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010([12])) a nifer y presenoldebau posibl.



([1])           1996 p.56. Mae adran 408 wedi ei diwygio gan baragraff 30 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) ac Atodlen 8 iddi, paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) ac Atodlen 31 iddi,  paragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a Rhan 7 o Atodlen 16 iddi, a chan O.S. 2010/1158.   

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32).

([3])           Mae isadran (2) o adran 108 wedi ei diwygio gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).

([4])           Mae isadran (3) o adran 108 wedi ei diwygio gan adran 21(1) a (7)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 a pharagraffau 11 a 15 o'r Atodlen iddo.  Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2915 (Cy.254)) a Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005  (O.S. 2005/1394 (Cy.108)) yw'r gorchmynion cyfredol.

([5])           O.S. 2010/1954 (Cy.187).

([6])           1997 p.44. Amnewidiwyd is-adran (5) o adran 30 gan baragraff 15(6) o Atodlen 12 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009

([7])           2002 p.32.

([8])           2009 p.22.

([9])           ISBN. 9780750444293.

([10])         Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1732 (Cy.169)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru)(Diwygio) 2008 (O.S. 2008/2629 (Cy.229)).

([11])         Y wefan ar gyfer Menter Cyfnewid Data Cymru yw www.dataexchangewales.org.uk.

([12]) O.S. 2010/1954 (Cy. 187)